PAPUR TYSTIOLAETH PWYLLGOR YR ECONOMI, MASNACH A MATERION GWLEDIG

Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi dweud y bydd 2022-23 yn gweld y cwymp mwyaf mewn safonau byw yn y DU ers dechrau cofnodion. Yn anffodus, ers i'r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi nid yw'r sefyllfa wedi gwella ond wedi gwaethygu. Mae diffyg twf ac mae Banc Lloegr yn rhagweld gostyngiad hanesyddol o 14% yng Nghhynnyrch Domestig Gros y DU (GDP) eleni.

Mae diffyg twf, ynghyd â safonau byw sy'n gostwng ac incwm go iawn yn cael effaith uniongyrchol ar fusnesau ledled y wlad.

Yn ogystal, mae'r ansefydlogrwydd yn Llywodraeth y DU wedi arwain at ansicrwydd pellach ynghylch unrhyw ymyriadau posibl a allai gael eu cyflwyno i gefnogi teuluoedd a busnesau yng Nghymru.

Er gwaethaf y gefnlen economaidd a chyllidol heriol hon, mae'r papur hwn yn amlinellu ystod o gamau gweithredu sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, cefnogi ein heconomi yn y dyfodol drwy sgiliau ein pobl ifanc, annog twf drwy fasnach a buddsoddi a hyrwyddo Cymru i gynulleidfa fyd-eang drwy Gwpan y Byd.

 

PWYSAU COSTAU BYW

Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl drwy'r argyfwng costau byw hwn drwy ddarparu cymorth wedi'i dargedu i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Yn ogystal â'r gefnogaeth uniongyrchol i fusnesau, mae helpu cartrefi sy'n ei chael hi'n anodd yn cael sgil-effaith trwy roi hwb i incwm a darparu mwy o arian i'w wario yn yr economi ehangach:

• Rydym wedi sefydlu is-bwyllgor Cabinet yn benodol i drafod y materion diweddaraf a pha gefnogaeth sydd ei angen ac rydym hefyd yn gweithio gyda dadansoddwyr ar draws y llywodraeth ar gasglu, dadansoddi a chyhoeddi data ar gostau byw a sicrhau bod hyn yn cael ei ddefnyddio i lywio ymyriadau'r llywodraeth.

• Mae Banc Datblygu Cymru yn parhau i helpu busnesau Cymru i gael y cyllid sydd ei angen arnynt i ddechrau, cryfhau a thyfu.          

• Mae ein Rhaglen Sgiliau Hyblyg yn cefnogi cyflogwyr i fuddsoddi mewn prosiectau datblygu'r gweithlu sy'n gallu sicrhau'r effaith economaidd fwyaf a elw ar fuddsoddiad yn y sector cyhoeddus.  Bydd yr arian yn cynorthwyo'r gwaith o greu a chynaliadwyedd cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel sy'n cefnogi blaenoriaethau economaidd cenedlaethol a rhanbarthol.           

• Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi £20.9 miliwn y flwyddyn yng ngwasanaeth Busnes Cymru yn y dyfodol o fis Ebrill 2023 tan fis Mawrth 2025, gan ddangos ein hymrwymiad i sicrhau bod entrepreneuriaid, micro a BBaCh yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth, y cymorth, y cyngor a'r arweiniad sydd eu hangen arnynt.          

• O ran trethi annomestig, rydym wedi darparu cymorth ariannol digynsail i fusnesau a thalwyr trethi eraill dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn enwedig ers dechrau'r pandemig. Mae ein cynlluniau rhyddhad parhaol yn golygu nad yw 44 y cant o'r sylfaen treth yn talu unrhyw ardrethi annomestig o gwbl.

• Yn 2022-23, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i gefnogi BBaCh drwy ddarparu £116 miliwn o gymorth trethi annomestig wedi'i dargedu i fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Byddwn yn parhau i edrych ar yr opsiynau am gymorth pellach.

• Mae cyllideb o £30m wedi ei neilltuo tuag at wella effeithlonrwydd ynni domestig mewn cartrefi incwm isel, gan gynnwys eiddo oddi ar y grid, trwy amrywiol raglenni Llywodraeth Cymru.

Rhagolygon

Mae'r argyfwng costau byw yn cael ei achosi gan gostau ynni cynyddol a phrisiau bwyd ac mae'n cael ei waethygu gan benderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU. Yn anffodus, mae'r pwysau hwn yn llawer mwy na chapasiti a grym cyllidol Llywodraeth Cymru. Mae llawer o'r ysgogiadau i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw – TAW, taliadau lles, treth tanwydd, pensiynau gwladol – yng ngofal Llywodraeth y DU.

Bellach mae gennym ein trydydd Prif Weinidog eleni a'r pumed mewn chwe blynedd, yn ogystal â Changhellor arall. Mae'r ansicrwydd a'r diffyg eglurder hwn yn golygu nad ydym yn gwybod beth yw sefyllfa ein cyllideb, ac nid ydym wedi gallu cynllunio'n briodol na chydnabod pa systemau cymorth pellach y gallwn eu cyflwyno i gefnogi teuluoedd a busnesau yma yng Nghymru.

Byddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael iddi i gymryd camau brys pellach i dargedu bylchau mewn cefnogaeth, yn enwedig i helpu cartrefi a theuluoedd incwm is a rhoi hwb i fusnesau sy'n teimlo effeithiau costau cynyddol.

Rydym yn ystyried y mesurau a amlinellir yng Nghyllideb y Canghellor ar 17 Tachwedd, fodd bynnag, rwyf am fod yn glir mai ein blaenoriaethau yw, ac wedi bod erioed, cefnogi pobl drwy'r argyfwng costau byw hwn drwy ddarparu cymorth wedi'i dargedu i'r rhai sydd ei angen fwyaf a thrwy raglenni a chynlluniau sy'n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl.

                                   GWARANT PERSON IFANC

Ym mis Tachwedd gwelwyd dathliad pen-blwydd cyntaf lansiad ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddarparu Gwarant y Person Ifanc (YPG). Mae'r Gwarant yn  cynnig cefnogaeth i bobl ifanc o dan 25 oed yng Nghymru gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu fynd yn hunangyflogedig.

Hyd yn oed heb gynnwys y rhai sydd wedi sicrhau lleoedd mewn Addysg Bellach ac Uwch, rydym wedi gweld dros 20,000 o ymyriadau yn cael eu darparu drwy ein gwasanaethau cyflogadwyedd yn unig, gyda dros 11,000 o bobl ifanc yn dechrau ar ein rhaglenni cyflogadwyedd.

Lle unwaith yr oedd ystod ddryslyd o opsiynau, cyfleoedd, a systemau cynghori ar gael i bobl ifanc, mae gwasanaeth Cymru'n Gweithio bellach yn darparu llwybr unigol, syml i gefnogaeth ynghyd â chyngor gyrfaoedd annibynnol proffesiynol.

Cyn hynny bu'n rhaid i bobl ifanc edrych ar wahanol lyfrynnau a safleoedd ar y we i chwilio am gyrsiau roedd ganddyn nhw ddiddordeb ynddyn nhw, ond mae platfform chwilio newydd ar gyrsiau sy'n hawdd eu defnyddio o'r enw "Cyrsiau yng Nghymru" wedi cael ei gyflwyno sy'n cynnwys gwybodaeth am filoedd o gyrsiau ledled Cymru.

O ran dod o hyd i'r cyfle cyflogaeth cywir, mae gwasanaeth paru swyddi Cymru'n Gweithio yn casglu gwybodaeth am yr holl swyddi gwag ym maes cyflogaeth ledled Cymru ac unwaith y bydd yr unigolyn wedi cofrestru, byddant yn cael gwybodaeth wedi'i haddasu ar swyddi gwag yn eu hardal leol a'r sector dewisedig.     

Ers ei lansio, mae'r Gwarant hefyd wedi'i wella yn 2022 i gynnwys opsiynau cymorth pellach fel:

Twf Swyddi Cymru+ - Cafodd ei lansio ym mis Ebrill ac eisoes yn cefnogi dros 2,000 o bobl ifanc, ac mae'n cynorthwyo pobl ifanc 16–18 oed i drosglwyddo i'r farchnad lafur a darparu gweithgareddau dal i fyny i ddysgwyr o ganlyniad i Covid.

Cymunedau am Waith+ - Mae dros 2,700 o bobl ifanc wedi derbyn cefnogaeth ers lansio'r YPG, gyda dros 5,500 o bobl ifanc yn derbyn cymorth trwy ein casgliad o raglenni cyflogadwyedd cymunedol.

ReAct+ - Lansiwyd ym mis Mehefin i ddarparu cefnogaeth yn cael ei arwain gan y galw i hyd at 5,400 o bobl ifanc bob blwyddyn, gan gynnwys grantiau hyfforddiant galwedigaethol a chefnogaeth cyflog yn ogystal â chymorth ymarferol gyda chostau gofal plant a thrafnidiaeth.

• Grant Rhwystrau i ddechrau busnes YPG  – a lansiwyd ym mis Gorffennaf – ynghyd â rhaglen o gyngor busnes a mentora ar gyfer pobl ifanc di-waith, gyda'r nod o gyrraedd hyd at 400 o entrepreneuriaid ifanc y flwyddyn. Mewn 3 mis, mae 365 o bobl ifanc wedi mynegi diddordeb ac mae 120 o gyfranogwyr bellach yn gweithio gyda chynghorwyr busnes i adolygu syniadau busnes a datblygu eu cynlluniau busnes i wneud cais am y grant.  Ers hynny mae 56 o bobl ifanc wedi cael grant.

Canolfannau cyflogaeth a menter gwell - mae gan bob coleg addysg bellach yng Nghymru swyddfa bwrpasol, gan ddarparu cymorth cyflogaeth eang a chyfleoedd i symleiddio'r broses o drosglwyddo o ddysgwyr i weithwyr.

Cryfhau'r Fframwaith Ymgysylltu a Dilyniant Ieuenctid (YEPF)- sy'n canolbwyntio ar adnabod NEETs posibl yn gynnar yn yr ysgol, i helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial ac atal tlodi a digartrefedd posibl.

Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi ym mywydau pobl ifanc sydd angen help llaw i gyflawni eu potensial. Mae Banc Lloegr wedi rhybuddio ein bod yn wynebu dirwasgiad hir a dwfn sy'n peryglu swyddi, busnesau, a gwasanaethau cyhoeddus.

Beth bynnag yw'r ansicrwydd sy'n ein hwynebu, gallwn fod yn sicr o un peth – byddai methu cefnogi pobl ifanc heddiw, yn sicrhau methiant economaidd yfory.

 

MASNACH RYNGWLADOL

Rhaglen Negodi Cytundeb Masnach Rydd Llywodraeth y DU

Mae Llywodraeth y DU wedi cynnal cyfres o drafodaethau masnach ers ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd. 

Ar ôl trefnu cytundebau gydag Awstralia a Seland Newydd, mae'r DU ar hyn o bryd mewn trafodaethau gyda sawl gwlad arall gan gynnwys India, Canada, Mecsico, yr Ynys Las, a'r Swistir.  Mae Llywodraeth y DU hefyd mewn trafodaethau i ymuno â'r Bartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP).

Mae’r trafodaethau masnach yn gadarnhaol i raddau helaeth ac mae swyddogion wedi adeiladu perthynas waith dda gyda swyddogion Llywodraeth y DU.

Cytundeb Masnach Rydd India

Ar 13 Ionawr 2022, cyhoeddodd llywodraethau'r DU ac India ddechrau trafodaethau masnach ffurfiol ar y cyd i sicrhau Cytundeb Masnach Rydd (FTA) gynhwysfawr rhwng y ddau bartner.

Bydd sicrhau FTA gydag India yn cael ei weld fel llwyddiant wrth i'r DU geisio adeiladu ar frand Prydain Fyd-eang yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE.

Mae Cymru a'r India yn rhannu perthynas gref â gwerth y fasnach nwyddau rhwng India a Chymru tua £687m yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2022.  India yw'r 16eg farchnad allforio fwyaf i Gymru sy'n cyfrif am oddeutu 1.0% o allforion nwyddau Cymru a'r 15fed farchnad fewnforio fwyaf gyda thua 2.5% o holl fewnforion nwyddau Cymru yn dod o India. Mae'r data diweddaraf ar fasnach gwasanaethau Cymru yn dangos mai £43m (1.4% o holl fewnforion gwasanaethau Cymru yn 2020), a £72m (1.2% o gyfanswm allforion gwasanaethau Cymru) yn y drefn honno, oedd gwerth y mewnforion a’r allforion gydag India. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu dechrau trafodaethau masnach gydag India, o ystyried y buddion posibl y gallai ei gynnig i'r Economi yng Nghymru, yn enwedig i allforwyr nwyddau fel peiriannau, moduron a bwyd, yn ogystal ag ar gyfer gwasanaethau mewn sectorau fel yswiriant a chyfrifyddiaeth.

Fodd bynnag, fel gyda phob FTAs, mae risgiau posibl yn y trafodaethau hyn, yn enwedig o ran safonau a chystadleuaeth.

Roedd disgwyl i drafodaethau ddod i ben erbyn Diwali (24 Hydref); fodd bynnag, ni ddaethpwyd i gytundeb, ac mae trafodaethau'n parhau.  Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r oedi hwn ac yn credu y dylai pob trafodaeth fasnach ganolbwyntio ar ganlyniadau ac nid cyflymder. Mae trafodaethau am India gyda Llywodraeth y DU wedi bod yn dda.

 

                                          CWPAN Y BYD QATAR

Mae cyfranogiad Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA dynion yn Qatar, 64 mlynedd ar ôl ymddangosiad diwethaf Cwpan y Byd, yn gyfle marchnata a diplomyddiaeth chwaraeon mwyaf arwyddocaol a gyflwynwyd erioed i Lywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio gwneud y gorau o'r cyfleoedd a'r buddion a ddaw o gymryd rhan, gyda'r bwriad o ehangu gweithgareddau pe bai Cymru'n symud ymlaen ymhellach.

Hyrwyddo Cymru

Bydd yr ymgyrch farchnata well yn darparu gweithgaredd marchnata byd-eang ar draws sianeli ein brand i fanteisio ar dîm pêl-droed dynion Cymru sy'n cymryd rhan yng Nghwpan y Byd FIFA 2022. Bydd ymgyrchoedd brand, twristiaeth a marchnata busnes Cymru yn cael eu cynnal ar draws y cyfryngau digidol, y cyfryngau cymdeithasol a chysylltiadau cyhoeddus wrth arwain at y twrnamaint, ac yn ystod y gystadleuaeth.  Bydd yr ymgyrchoedd hyn yn alinio ag amcanion ehangach Llywodraeth Cymru ac yn cynnwys cydweithio gyda partneriaid er mwyn hyrwyddo Cymru i'r byd. 

Sefydlwyd y Gronfa Cefnogi Partneriaid gyda'r nod o ychwanegu gwerth a chyrhaeddiad ehangach i'n hamcanion craidd. Lansiwyd y gronfa ar Awst 13eg a chaeodd ar Awst 26ain. Cawsom ymateb gwych i'r gronfa gyda 97 o geisiadau wedi'u derbyn gwerth cyfanswm o dros £7m. Bydd yr 19 prosiect fydd yn cael eu dewis yn derbyn cyfanswm o £1.8m ac mae nhw'n cynrychioli amrywiaeth Cymru. Eu nod yw cyrraedd cymaint o bobl â phosibl yng Nghymru a thu hwnt fel rhan o'n gweithgareddau Cwpan y Byd.  Ers diwedd mis Medi mae prosiectau'r gronfa cefnogi partneriaid i gyd wedi dechrau eu gweithgareddau a'u gweithrediadau. 

Bydd Prif Weinidog Cymru, a Gweinidog yr Economi, yn cynnal rhaglen o weithgareddau yn y farchnad yn Qatar. Gweithredwyd y rhaglen gan y tîm y farchnad yn Dubai a Qatar gyda chefnogaeth cysylltiadau rhyngwladol ehangach a chydweithwyr eraill o Lywodraeth Cymru. Mae ymgysylltiadau yn amrywio o ddigwyddiadau diplomyddol, digwyddiadau hyrwyddo, gweithgareddau diwylliannol, cyfarfodydd busnes ac ymgysylltu â diaspora.

Mae'r ymgyrch farchnata hefyd yn cynnwys mannau cyswllt allweddol â phartneriaid, diaspora a Llysgenhadon Byd-eang Cwpan y Byd sy'n cael eu dynodi yn 'Lleisiau Cymru' i weithredu fel eiriolwyr ar ran Cymru. Y pedwar 'Llais' sydd wedi'u dewis yw'r cyn bêl-droediwr o Gymru, yr Athro Laura McAllister, Colin Jackson CBE, y DJ a'r cyflwynydd o Lundain, Katie Owen, a'r Cogydd Enwog, Bryn Williams.

Rydym yn defnyddio ein 20 o swyddfeydd Llywodraeth Cymru dramor i gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru cyn, yn ystod ac ar ôl Cwpan y Byd, trwy ystod o ddiplomyddiaeth chwaraeon a gweithgareddau eraill. Rydym hefyd yn annog hyrwyddo Cymru drwy rwydwaith y DU dramor - gan weithio gyda'r FCDO a'r Cyngor Prydeinig i ddarparu asedau a negeseuon allweddol.

Bydd gweithgaredd ar y cyd gyda Llywodraeth y DU ar gyfleoedd i hyrwyddo Cymru yn Qatar. Bydd gennym ein presenoldeb Cymreig penodol ein hunain ar ffurf gosodwaith yn Doha, ond hefyd cynnwys Cymreig mewn Pafiliwn Gardd Mawr GREAT Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Gŵyl GREAT.

Cyflwyno Ein Gwerthoedd

Mae cyflwyno ein gwerthoedd yn un o amcanion craidd gweithgareddau Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru ac mae'n cael ei gynnwys yn ein holl weithgareddau. Bu llawer o gyhoeddusrwydd i faterion sy'n ymwneud â hawliau gweithwyr, hawliau LHDTQ+, hawliau menywod, ac achosion dyngarol eraill sy'n gysylltiedig â chynnal Cwpan y Byd Qatar. Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau ein bod yn hyrwyddo ac yn cynnal ein gwerthoedd i gymryd rhan mewn deialog iach ac adeiladol fel rhan o gyfraniad Cymru yng Nghwpan y Byd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cwrdd ag ystod o randdeiliaid o ran ein hamcanion ar gyfer Cwpan y Byd Dynion FIFA yn Qatar. Roeddem yn rhan o weithdy a hwyluswyd gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Swyddfa Cenedlaethau'r Dyfodol oedd yn trafod ymgysylltu â Chwpan y Byd yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae Prif Weinidog Cymru wedi croesawu'r Datganiad Gwerthoedd a gyhoeddwyd yn dilyn y gweithdy hwnnw.

Sicrhau diogelwch dinasyddion Cymru

Fel amcan craidd o weithgareddau Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru, mae perthnasoedd gwaith agos wedi ennill eu plwyf gydag adrannau a lluoedd diogelwch Llywodraeth y DU, yn ogystal â defnyddio gwybodaeth a chysylltiadau ein staff yn y farchnad yn Dubai er mwyn sicrhau bod dinasyddion Cymru yn gallu teithio a mwynhau Cwpan y Byd yn ddiogel.

Mae Llywodraeth Cymru yn mynychu sesiynau briffio'n rheolaidd gyda FCDO, yr Heddlu, MOD, FA, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a Llysgenhadaeth y DU yn Qatar ar faterion diogelwch a diogelwch dinasyddion Cymru.

Sicrhau Etifeddiaeth Bositif a Pharhaol

Yn y tymor hwy, rydym yn ystyried sut mae Cymru'n sicrhau gwaddol parhaol a chadarnhaol o'n cyfranogiad yn y twrnamaint, yn alinio â 'Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) '.

Mae amrywiaeth o gyfleoedd i sicrhau gwaddol cadarnhaol o ran cyfranogiad chwaraeon a mentrau iechyd a diwylliannol ehangach. Mae'r mentrau hyn yn cynnwys buddsoddi mewn cyfleusterau ar lawr gwlad, buddsoddiad yn y gyllideb gyfalaf drwy Chwaraeon Cymru, cysylltu gweithgareddau diwylliannol a chwaraeon drwy'r Gronfa Cefnogi Partneriaid.

Yn ogystal â hyn, bydd gwaddol Cwpan y Byd yn helpu i ganmol llwyddiant y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Ers sefydlu Cymru Greadigol ym mis Ionawr 2020, dyfarnwyd £14.2 miliwn o gyllid cynhyrchu yn llwyddiannus i 22 o brosiectau gan gynhyrchu dros £155.6 miliwn o wariant cynhyrchu i economi Cymru.

I grynhoi, bydd gwaddol Cwpan y Byd Cymru yn rhoi cyfoeth o gyfleoedd i ni o fudd i'n Heconomi, addysg, y celfyddydau, diwylliant ac iaith.

                                                        CASGLIAD

Er gwaethaf yr heriau a wynebwn, byddwn yn parhau i wireddu ein gweledigaeth o wneud Cymru'n lle deniadol i fyw, astudio, gweithio a buddsoddi ynddi.

Mae'r papur hwn wedi dangos pedwar maes lle rydym wedi bod yn gweithredu i gefnogi aelwydydd a busnesau, uwchsgilio ein pobl ifanc, hybu masnach ryngwladol, a defnyddio'r cyfleoedd a gyflwynir gan gyfranogiad Cymru yng Nghwpan y Byd.

Rwy'n edrych ymlaen at drafod y materion hyn yn fanylach gyda'r pwyllgor ym mis Rhagfyr.